Mae’r PAS yn pennu’r gofynion i gyrff rheoli adnoddau
gwastraff o ran adrodd am berfformiad.
Mae’n gofyn bod corff rheoli adnoddau gwastraff yn
adrodd am:
a) sut mae’n cyflawni gweithgareddau rheoli adnoddau
gwastraff penodol (Cymalau 3 i 11); a’r
b) cyfraddau dargyfeirio o dirlenwi ac adennill
deunyddiau mae’n eu cyflawni (Cymal 12).
Mae’n berthnasol i gorff rheoli adnoddau gwastraff
sy’n prosesu gwastraff diwydiannol, masnachol neu o
gartrefi mewn gorsaf drosglwyddo, cyfleuster trin neu
safle gwaredu.
Nid yw’n berthnasol i gorff rheoli adnoddau gwastraff
sy’n gweithredu fel cludydd gwastraff neu frocer
gwastraff yn unig.
NODYN 1 Ceir canllawiau manwl ar sut mae
cwblhau adroddiad ar reoli adnoddau gwastraff
sy’n cydymffurfio â PAS 402 mewn dogfen ategol a
gyhoeddwyd gan CEW, sef Rheoli Adnoddau Gwastraff
– Canllawiau ar gyfer Adrodd am Berfformiad yn erbyn
PAS 402 [1].
NODYN 2 Ceir tablau cyfatebiaeth sy’n dangos y
berthynas rhwng Cymalau 3 i 12 a safonau systemau
rheoli presennol yn Atodiad A.
NODYN 3 Mae’n ofynnol i gyrff rheoli adnoddau
gwastraff, yn ôl deddfwriaeth yng Nghymru, Lloegr,
Gogledd Iwerddon a’r Alban, gael eu hawdurdodi i
gyflawni eu gweithgareddau.